OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 223 (Cy. 37) (C. 7)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ac mae’n dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn y Mesur. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â strategaeth iaith Gymraeg Gweinidogion Cymru a sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
adran 2(2) (yn rhannol) adran 2(3) (yn rhannol) adran 23(1) (yn rhannol) adran 23(4)
adrannau 138 a 139 adran 146 (yn rhannol) Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6
|
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
10 Ionawr 2012
10 Ionawr 2012
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
10 Ionawr 2012
28 Mehefin 2011 |
2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/46 (Cy.10) 2012/46 (Cy.10) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182)
2012/46 (Cy.10)
2011/1586 (Cy. 182) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 223 (Cy. 37) (C. 7)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012
Gwnaed 30 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012.
Cychwyn
2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 5 Chwefror 2012—
(a) adran 148;
(b) adran 149.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012